Mae’r llwybr hwn â llethr graddol yn dilyn llwybr llydan, gwastad yr hen leiniau rheilffordd oedd ar un adeg yn cludo teithwyr a glo ar hyd y cwm. Mae 14 milltir o hen reilffordd nas defnyddir rhagor a ffordd goedwig yn cysylltu cymunedau Pont-rhyd-y-fen, Blaengwynfi a Glyncorrwg ac yn ymlwybro trwy goedwig a mannau agored a oedd ar un adeg yn gilffyrdd y rheilffordd. Mae hen orsaf Cynonville wedi’i throi’n lloches a llecyn barbeciw ac mae sawl mainc a bwrdd picnic arall ar hyd y llwybr yn cynnig cyfle i aros a mwynhau’r olygfa.
Pellter: 14 milltir – o Bont-rhyd-y-fen i Flaengwynfi neu i Lyncorrwg ac yn ôl
Pellter: 10 milltir – taith gron o Bont-rhyd-y-fen i’r Cymer ac yn ôl
Amser Reidio: 3 awr
Dringfa: Graddiant graddol
Man Cychwyn: Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan?
Gradd: Ffordd Goedwig